Iesun dod i Fethlehem
Mae bron blwyddyn ers inni ddechrau codi arian a chyfrannu at BanglaCymru.
Gweledigaeth Wil Morus Jones yw BanglaCymru, a dydd Sul 21 Mehefin fe fydd yn ymweld â ni eto i ddweud wrthym am hynt a datblygiad y fenter.
Ond fydd Wil ddim ar ei ben ei hun y tro yma. Gydag ef bydd Dr Jishumoy Dev, cydlynydd y fenter ym Mangladesh ac un or meddygon medrus syn ymgymryd âr llawdriniaethau.
Mae Jishu yn arbennig o awyddus i ddiolch i aelodau Bethlehem am y gefnogaeth a gafodd ac maen edrych ymlaen yn fawr at gael dod ir chapel.
Bydd paned ar ôl yr oedfa a chyfle i bawb gael cwrdd âr meddyg ifanc y pryd hynny.
Dewch i roi croeso tywysogaidd i Dr Jishu ac i ddysgu mwy am y gwyrthiau llawfeddygol ym Mangladesh.
Iesun dod i Fethlehem? Wel ffurf ar Iesu yw Jishu. Daioni Iesu neu gyfanrwydd Iesu yw ystyr Jishumoy.
yn ôl