Newyddion







Paratowyd gan Marged ar gyfer gwasanaeth 19 Tachwedd 2009


Y Goeden Eirin

Yr hyn dwi i am ei rannu gyda chi’r bore ’ma am rai munudau yw stori gan y dramodydd John Gwilym Jones a gyhoeddwyd gan wasg Gee yn 1946 o’r enw Y Goeden Eirin. Bu hon ar y cwrs Safon Uwch am rai blynyddoedd yng nghanol y 90au a dyna lle des i ar ei thraws.

Mae’n siŵr bod Cymru’n lle gwahanol iawn yn 1946 i’r hyn yw hi heddiw. Flwyddyn wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd yr oedd dogni’n rhan anorfod o fywyd pawb ac fel heddiw, mae’n siŵr, byddai rhyfel yn fater real iawn i bobl. Beth all stori sy’n ddigon hen i dderbyn pensiwn ddweud wrthym ni heddiw, dywedwch?

Stori yw hi am ddau frawd sy’n efeilliaid – Wil a Sionyn. Mae’n cael ei hadrodd o safbwynt Sionyn.

Mae’n dechrau drwy bwysleisio mor debyg yw’r ddau: ‘Dilynasom ein gilydd ar hyd y lloriau fel cysgod y naill a’r llall,’ wrth iddyn nhw ddysgu cropian a cherdded. Am flynyddoedd doedden nhw ddim yn ymwybodol bod yna wahaniaeth rhyngddyn nhw: “‘Sionyn ty’d yma,’ meddai mam, a Wil yn rhedeg ati nerth ei draed. ‘Paid, Wil, y gwalch bach,’ meddai nhad, a minnau’n peidio’r munud hwnnw.”

Roedd y ddau mor debyg i’w gilydd fel nad oedden nhw’n ymwybodol lle roedd y naill yn dechrau a’r llall yn gorffen. Pan fyddai’r naill yn derbyn cosb byddai’r llall hefyd yn teimlo’r boen. Roedden nhw’n hynod agos ac eto erbyn presennol y stori mae’r naill yn ymladd yn yr Aifft a’r llall yn gweithio ar y tir ym Maes Mawr – y naill yn filwr a’r llall yn Wrthwynebydd Cydwybodol.

Mae Sionyn yn ceisio deall beth oedd achos y gwahanu, sut yr aeth y ddau oedd bron yn un, yn ddau ar begynau mor wahanol. Daw i’r casgliad mai’r Goeden Eirin oedd gwraidd y drwg. Yn wir ystyria mai ‘Duw a’i plannodd hi yno. A Duw a ddywedodd “Bydded coeden eirin ym mhen draw gardd Llys Ynyr, rhwng y tŷ bach a’r wal”; ac felly y bu. Ie, Duw a blannodd y goeden eirin rhwng y tŷ bach a’r wal yn ein gardd ni .... “Rydw i’n plannu hon”, medda fo,” i wneud Wil yn Wil a Sionyn yn Sionyn.”’

Ac yna mae’r stori’n trafod y syniad o ewyllys rydd. Duw sydd wedi ei rhoi inni er mwyn inni allu gwneud ein penderfyniadau ein hunain. Wnaeth e mo’n creu er mwyn i ni beidio â meddwl. Rhoddodd i ni ewyllys gref i gredu’r hyn rydyn ni’n moyn. ‘Gelli di gredu a bod yn addolwr cydwybodol “yn gweddïo fel Daniel â’th wyneb tuag at Jerwsalem, cei gredu mai â’r Pab yn unig bydd Duw yn siarad, cei gredu bod Robin Puw, Tŷ Draw, yn nabod Duw yn well na’r Pab neu cei gredu fel Bernard Shaw mai dychymyg Robin Puw a’r Pab sy’n dweud wrthynt bod Duw yn siarad â nhw, neu cei gredu fel Stalin mai addurn tlws ond amherthnasol yw Duw.”’

Wrth gwrs dyna fyddai dadleuon y cyfnod. Sut y gallai Duw adael i ryfel ddigwydd? Oes yna Dduw?

Efallai bod y stori’n ddigon hen i dynnu pensiwn ond maen nhw’n gwestiynau y gallwn eu gofyn heddiw hefyd.

Pam mentro i Irac ac Afganistan? Pam mentro bywydau a thywallt gwaed? Ai clodfori rhyfel a mawrygu grym Prydeinig ac Americanaidd oedd y nod? Ai cadw rheolaeth ar rannau cythryblus o’r byd oedd y pwynt?

Alla i ddim ateb y cwestiynau yna ac mae’n debyg y byddai’r atebion yn dibynnu ar bwy y bydden ni’n gofyn y cwestiynau iddyn nhw.

Sut yr aeth y naill frawd i’r Aifft a’r llall i Maes Mawr? Beth oedd effaith hyn ar eu perthynas? I’w mam, yr un oedd ei gofid dros y naill a’r llall. ‘“Wyt ti’n cael digon o fwyd ym Maes Mawr, Sionyn? Oes yna ddigon o ddillad ar dy wely di? Cymer ofal bod gennyt ti ddigon o gynhesrwydd amdanat” oedd ei chonsyrn am Sionyn oedd yn trin y tir am ei fod yn gwrthwynebu’r rhyfel. Ac, wrth reswm, roedd gwrthwynebiad hwnnw’n ennyn llid pobl oedd â’u meibion yn wynebu perygl rhyfel.

Roedd Meri Owen, Trycia yn edliw nad oedd Sionyn yn ymladd, nad oedd yn gwneud ei ran, ac ateb parod ei fam iddi oedd: ‘“Pe tasa pawb fel Sionyn fasa yna ddim rhyfel”.

Beth felly oedd ei hymateb i’w mab arall, yr un oedd yn yr Aifft yn ymladd? Oedd hi’n gofidio amdano fe yr un fath â Sionyn a oedd yn derbyn dirmyg pobl am beidio ymladd? Wel oedd wrth gwrs. ‘“Sut fwyd wyt ti’n gael Wil? Ydy hi’n oer yn yr hen denti yna? Cofia roi digon amdanat.”’

Os oedd ganddi ateb parod wrth amddiffyn Sionyn yn wyneb beirniadaeth Meri Owen, roedd hi’r un mor barod ei thafod wrth ymateb i Mr Williams y gweinidog:

“Dydio’n biti na fasa Wil wedi sefyll fel Sionyn?”

“Mae’n dda iawn inni wrth rai fel Wil neu dan draed y buasem ni.”

Mae’r fam hon wedi gorfod ymdopi â’r ddwy farn. Mae ganddi un mab yn gonshi a’r llall yn filwr. Dau fab y mae hi wastad wedi eu hystyried yn rhan annatod o’i gilydd. A thybed nad felly y mae? Mae dwy ochr i bob dadl.

Beth wnaeth i Wil a Sionyn wneud dewisiadau mor wahanol? Beth achosodd i ddau oedd mor debyg pan oedden nhw’n ifanc gymryd llwybr mor wahanol wrth ymateb i’r Ail Ryfel Byd?

Y goeden eirin. Sut? Er na allai Wil gofio pa un ai fe ynteu Sionyn a gwympodd o’r goeden a thorri ei goes, fe gofiai Sionyn yn iawn. Roedd yn wahanfa – yn achos y gwahanu fu rhwng y ddau. Y goeden eirin wnaeth Wil yn Wil a Sionyn yn Sionyn. Y goeden eirin ganiataodd iddyn nhw fod yn wahanol.

Sut y gallai cwymp o goeden a thorri coes wneud hynny? Bu Sionyn yn gaeth i’r tŷ am wythnosau yn aros i’w goes wella. Roedd e’n byw mewn oes pan nad oedd yna deledu ymhob tŵ, heb sôn am gyfrifiadur. Beth wnaeth e i basio’r amser? Yr hyn a wnaeth Wil yn absenoldeb ei efaill oedd mynd i chwarae gyda Lias a Harri bach y garej. O’r blaen roedd ganddo rywun parod i chwarae ag e – ei efaill. Ond gan fod hwnnw’n methu chwarae allan fe ffeindiodd gyfeillion y tu hwnt i’r teulu. Effaith hyn oedd ehangu ei orwelion – gwneud iddo fentro i fannau gwahanol a dechrau’r broses o wahanu oddi wrth ei deulu. Datblygodd ddiddordeb mawr mewn deinamo, clytsh a rhyfeddodau eraill ceir. Tra bod Wil yn dysgu am geir a mecanics roedd Sionyn yn darllen, yn ehangu ei feddwl. Ac yn nes ymlaen tra oedd Wil yn yr Aifft yn canmol ei le a ‘bwyd difai a digon ohono’, roedd Sionyn o’r farn bod hynny’n bosibl ar gefn pobl ‘Affrica a Malay ac India sydd â’u safon byw nhw’n is nag un mochyn yn ein gwlad ni.’ Daeth e i’r casgliad hwnnw wrth gwrs drwy ei ddarllen.

Ymateb Wil i feirniadaeth Sionyn oedd: ‘Rydw i’n gwybod eu bod arweinwyr yn twyllo ac yn newynu tlodion... Pa well wyt ti o ladd dy hun yn ceisio dangos pydredd cymdeithas i’r gymdeithas honno? Mae da a drwg wedi cordeddu cymaint yn ei gilydd fel na elli di ddim tynnu llinell derfyn rhyngddynt.’

Nid ateb deallus, addysgedig oedd un Wil i ddadleuon ei frawd, ond ymateb i’r hyn roedd e’n ei weld. Ateb yn adlewyrchu ei brofiadau.

Y goeden eirin a wahanodd y ddau frawd. Y goeden eirin a roddodd gyfle iddyn nhw dorri eu cwys eu hunain. Pa un oedd yn iawn? Pa ddadl sy’n gywir? Pa farn sy bwysicaf? Alla i ddim ateb y cwestiynau yna.

Beth sy wedi mowldio’n syniadau ni? Pa effaith a gafodd ein darllen arnon ni? Beth sy wedi gwneud i ni gredu’r hyn rydyn ni’n ei gredu? Ydyn ni yn fodlon sefyll dros ein daliadau? Ydyn ni’n fodlon wynebu beirniadaeth pobl am feddwl yn wahanol i’r ffasiwn?

Galla i edmygu dewrder Sionyn am iddo beidio ymladd, am iddo fod yn ‘gonshi’ – dyna oedd tad fy nhad.

Galla i hefyd edmygu Wil am fod yn ddigon dewr i ymladd y gelyn yn yr Aifft – roedd hynny siŵr o fod yn anodd ac yn beryglus – a dyna wnaeth tad fy mam pan oedd yn y camel corps!

“Rydw i’n plannu hon i wneud Wil yn Wil a Sionyn yn Sionyn.”

A diolch nad yw pawb yr un fath.

yn ôl