Newyddion







To Newydd

Testun llawenydd i aelodau a chyfeillion Bethlehem oedd clywed bod Cronfa Dreftadaeth y Loteri a Cadw wedi cefnogi eu cais i ail-doi’r capel a’r festri.

Bydd y Loteri yn cyfrannu £53,400 a Cadw yn rhoi £25,576. Cododd yr eglwys ei hunan dros £15,000 i dalu’r gweddill.

Yn 2009 y gwneir yr ail-doi. Neil Smith a’i Gwmni o’r Bont-faen fydd yn ymgymryd â’r gwaith, dan ofal Alwyn Jones, Penseiri o Ffynnon Taf, sy’n arbenigo ar gadwraeth adeiladau hanesyddol.

Mae hyn yn newyddion gwych i Fethlehem ar drothwy’r Nadolig.

Bydd y gwaith hanfodol hwn yn sicrhau bod y capel yn ddiddos, ac y gall y cenedlaethau nesaf o addolwyr hwythau gynnig lle yn y llety hwn.

Rydym yn ddiolchgar iawn i’r Loteri a Cadw am weld yn dda ein cefnogi.

Am ragor o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch â Rhys Dafis, Ysgrifennydd Eglwys Bethlehem drwy ffonio 029 2089 1360 neu 07946 299 940, neu drwy e-bost: rhysdafis@aol.com.

yn ôl