Newyddion







Paratowyd gan Eirlys ar gyfer gwasanaeth 17 Ionawr 2010


Ffrwyth profiad: deunydd myfyrio

Pan edrychwn ’mlaen yn blentyn
Roedd pob eiliad bron fel blwyddyn;
Wedi prifio, newid profiad,
Fe â blwyddyn bron fel eiliad.

Ein dyddiau segur ni yw dyddiau prysur y diafol.

Gall awr o amynedd ennill blwyddyn o heddwch.

Gorau gwaith yw gobeithio.

Nid blynyddoedd sydd yn gwneud dyn, ond gwelediad.

Nid hyd dy dyddiau yw mesur dy ddynoliaeth, ond ehangder dy orwelion.

Gellir bod yn fyw am bedwar ugain mlynedd heb fyw am bum munud.

Dyddiau a fesur einioes; gweithredoedd ac egwyddorion a fesur fywyd.

yn ôl