Newyddion







Anerchiad Alun i Gwrdd Chwarter Cyfundeb Dwyrain Morgannwg, 6 Chwefror 2008


Darlledu Crefyddol

Aflonyddu a Chysuro

Diwygiad electronig! Ydi’r fath beth yn bosib? Yr ateb i hynny yw ein bod ni wedi byw trwy gyfnod o’r fath yn ystod y degawd diwethaf. Diwygiad crefyddol electronig? Mater tra gwahanol yw hynny.

Pan ddarganfu Marconi, yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, sut i drosglwyddo neges heb wifren prin y byddai o, na neb arall ar y pryd, wedi dychmygu y sefyllfa o gyfathrebu bydeang sy’n bodoli heddiw trwy’r we, y ffôn, y ffôn-lôn, y cyfrifiadur, i-pod … yn ogystal â’r cyfryngau traddodiadol, sy’n trosglwyddo negeseuon ‘yn fyw’ o bob rhan o’r ddaear ac o’r gofod. Daeth cyfathrebu yn y fan a’r lle, a chyfamserol i gannoedd o filiynau, yn ffaith ddiymwad erbyn yr unfed ganrif ar hugain.

Yn 1922, bedwar ugain a chwech o flynyddoedd, yn ôl y dechreuwyd darlledu cyfundrefnol yng ngwledydd Prydain. Roedd hi’r flwyddyn wedyn, 1923, cyn dechrau darlledu o Gymru. Cwmni masnachol, The British Broadcasting Company, a gafodd yr hawl i ddarlledu yn y lle cyntaf a hynny cyn gwybod pa effaith ar fywyd, os o gwbl, a gâi’r bwystfil newydd hwn.

Cadeirydd cyntaf y cwmni darlledu oedd Albanwr o’r enw John Reith, mab y mans, a gredai mai swyddogaeth radio oedd atgyfnerthu moesoldeb cymdeithas a chynnal argyhoeddiadau crefyddol gan wneud hynny trwy adlewyrchu y traddodiadau Cristnogol. I Reith gellid honni nad gwaith buddiol ond comisiwn oddi wrth Dduw a galwedigaeth oedd darlledu. Nid oedd ef ei hunan yn ‘fynychwr’ o argyhoeddiad ond fe welai’r cyfle i’r cyfrwng newydd fod yn bartner i’r eglwys i greu gwareiddiad Gristnogol ym Mhrydain trwy fod yn offeryn i wella ansawdd cymdeithas.

Er hynny, nid bu darlledu crefyddol yn rhan o batrwm cyson y gwasanaeth newydd nes daeth darlledu, trwy argymhelliad Comisiwn Brenhinol yn 1927, yn ‘wasanaeth cyhoeddus’ yn hytrach nag yn fentr fasnachol. Cymaint oedd dylanwad a photensial darlledu nes i’r Comisiwn benderfynu y dylai’r pŵer newydd hwn fod yn atebol i’r cyhoedd ac nid i gyfarwyddwyr Cwmni a oedd yn bodoli i wneud elw. Mae dros bedwar ugain mlynedd ers sefydlu’r BBC – The British Broadcasting Corporation (nid Company), a John Reith oedd Cyfarwyddwr cyntaf y gwasanaeth hwnnw hefyd.

Gofyn a wnawn ni, felly:

Darlledwyd y gwasanaeth crefyddol cyntaf o eglwys St Martin-in-the-Fields ar 6 Ionawr 1924. Daeth y gwasanaeth crefyddol Cymraeg cyntaf o gapel Gomer, Abertawe ar 22 Chwefror 1925. Teledwyd y gwasanaeth cyntaf ddydd Nadolig 1949 a’r Songs of Praise cyntaf ar 1 Hydref 1961, o gapel y Tabernacl, Caerdydd. Dyna ddau ‘gyntaf’ yng Nghymru i’r Bedyddwyr – capel Gomer a’r Tabernacl.

Tra’n bod ni’n crybwyll ‘y tro cyntaf’, o Abaty Westminster ar 12 Hydref 1926, y darlledwyd Choral Evensong gyntaf; y Daily Service o stiwdio Savoy Hill ar 2 Ionawr 1928, a Sunday Half Hour am y tro cyntaf yng Ngorffennaf 1940, i gysuro aelwydydd yn ystod y rhyfel.

Darlledu ‘twll-bach-y-clo’ oedd hyn. Gosod meicroffonau, ac yn ddiweddarach gamerâu, mewn capeli ac eglwysi gan ddarlledu yr hyn a ddigwyddai yno o Sul i Sul heb fawr ymdrech i fod yn greadigol. Wedi ymgyrch faith gan wraig o’r enw Miss Kate Cordeuex, a phetisiwn a gyhoeddwyd yn y Radio Times, fe gytunodd y BBC i ddarlledu defosiwn dyddiol [Daily Service] o’r stiwdio o ddechrau Ionawr 1928 ymlaen. Am beth amser, sgyrsiau crefyddol oedd y gweddill o’r cynnyrch. Roedd ambell offeiriad yn gwrthod y cyfle i bregethu ar y radio ‘because people could be listening to me in pubs – with their caps on.

O ran gweinyddiaeth, doedd dim Adran Darlledu Crefyddol yn bodoli bryd hyn. Ffurfiwyd ‘Pwyllgor y Sul’ cyn gynhared ag 1923 yn Llundain i gynghori’r British Broadcasting Company ar siaradwyr perthnasol ar bynciau crefyddol. Cynrychiolwyr o dri enwad oedd ar y pwyllgor hwnnw: Eglwys Loegr, yr Eglwys Babyddol, a’r Presbyteriaid (y dylanwad Albanaidd, hwyrach). Erbyn 1926 roedd y pwyllgor wedi newid ei enw i Central Religious Advisory Committee [CRAC], a oedd â gwell cynrychiolaeth o blith yr enwadau ymneilltuol. Dylid tanlinellu swyddogaeth ‘ymgynghorol’ y pwyllgor oherwydd, flynyddoedd yn ddiweddarach a’r pwyllgor hwn wedi cael ei draed tano, fe gododd cryn anghydfod rhwng CRAC a’r Adran Ddarlledu Crefyddol: pwy oedd i lunio polisi’r Adran? A phwy ddylai wneud penderfyniadau? Ond dadl y chwedegau oedd honno ac fe ddown ni’n ôl at y pwynt cynhenus hwnnw yn nhrefn amser.

Yng Nghymru bu Lloyd George yn ddylanwadol ar y camau i sefydlu’r pwyllgor Cymreig cyfatebol i CRAC sef The Welsh Religious Advisory Committee [WRAC]. Yn wir, ef oedd cadeirydd cyntaf y pwyllgor.

Gosodwyd pedair carreg sylfaen i ddarlledu crefyddol:

Erbyn diwedd y tridegau roedd 11.5% o gynnyrch Saesneg y BBC yng Nghymru yn ddarlledu crefyddol; 18% oedd y ffigwr cyfatebol yn Gymraeg. Doedd y patrwm Llundeinig o rannu oedfaon dros gyfnod o chwe wythnos yn 3 Anglican, 2 Ymneilltuol, 1 Pabyddol ddim yn gweddu i’r Gymru Gymraeg. Tros y chwe mis cyntaf yn 1939 y patrwm, fesul pythefnos, oedd 5 Methodistiaid Calfinaidd, 4 Bedyddwyr, 4 Annibynwyr, 3 Yr Eglwys yng Nghymru, 2 Wesleaid. Dim un gwasanaeth Pabyddol. A doedd yr Undodiaid, chwaith, ddim ymhlith y detholedig rai. Yn ychwanegol at yr oedfaon o gapeli ac eglwysi, darlledid gwasanaeth byr o’r stiwdio, wedi ei sylfaenu ar fyfyrdodau Pob Bore o’r Newydd, ar fore Mercher.

Dyna’r patrwm cyn yr Ail Ryfel Byd. Erbyn 1950, wedi i’r llwch setlo ac i fywyd ddychwelyd i normalrwydd heddychlon o fath, 10% o’r cynnyrch yng Nghymru a ddeuai dan faner ‘crefydd’. Cynrychiolai hynny gfanswm o 120 awr mewn blwyddyn; 70% (sef 84 awr) yn Gymraeg, a 30% (sef 36 awr) yn Saesneg ar y Welsh Home Service [WHS]. Beirniadwyd y cynnyrch gan y Cyngor Darlledu am fod yn ‘singularly restricted and unadventurous.’

Dyn o’r enw Major Edgar Jones, cyn-Brifathro o’r Barri, ac un a fu’n allweddol i sicrhau darlledu yn yr iaith Gymraeg yn y dyddiau cynnar, oedd yn gyfrifol am ddarlledu crefyddol yng Nghymru, yn rhan-amser, o 1931 hyd 1945. Yn 1945 penodwyd y Parchedig Glyn Parry-Jones i swydd barhaol o Drefnydd Rhaglenni Crefyddol. Yn 1952 penodwyd y Parchedig John Owen Jones i’w gynorthwyo, a hynny o’r ganolfan ddarlledu ym Mangor. Byddai’r ddau yn teithio’r wlad i ofalu am Oedfa’r Bore, Morning Service, Caniadaeth y Cysegr a Sunday Half Hour, yn ogystal â’r defosiynau o’r stiwdio Newyddion Da ac yn eu tro Lighten Our Darkness. Cynhyrchwyd llyfr o weddïau a darlleniadau Beiblaidd o’r enw Addolwn ac Ymgrymwn ar y cyd gan y ddau. Roedd John Owen Jones hefyd yn cynhyrchu rhaglen gylchgrawn grefyddol Y Ddolen a ddarlledid yn fisol o Fangor.

‘Argyhoeddiadau crefyddol,’ meddai Glyn Parry-Jones yn 1950, ‘yw prif seiliau meddwl a gweithredoedd.’ Gwasanaeth ar gyfer credinwyr oedd darlledu crefyddol o hyd. Deuai adroddiadau o brif gynadleddau blynyddol yr enwadau a chyfresi byr achlysurol ar gyfer Ysgolion Sul. Ac yr oedd darlledu crefyddol o’r fath yn denu cynulleidfaoedd sylweddol i wrando. Yr oedd Morning Service ac Oedfa’r Bore, er enghraifft, yn denu ymhell dros dri chan mil o wrandawyr yr un. Yr oedd yr oedfaon yn ‘top of the pops’ ac yn hynny o beth, ar wahân i faint y gynulleidfa, dyw’r sefyllfa ddim wedi newid rhyw lawer.

Pan ddadleuodd Adroddiad Beveridge y dylai darlledu crefyddol gynnwys syniadau y tu hwnt i’r brif ffrwd enwadol, ymatebodd Alun Oldfield-Davies, Rheolwr y BBC yng Nghymru ar y pryd, y byddai gwrandawyr Cymraeg ‘yn gwrthwynebu siarad gwrth-Gristnogol.’ Ond cynyddu yr oedd y feirniadaeth ar agweddau ac ar gynyrchiadau crefyddol – pregethau yn brin o arddeliad, y deunydd yn brin o argyhoeddiad, ac wedi un oedfa eithriadol o brudd meddai’r Liverpool Daily Post: ‘Cheer up old man, you’ll soon be dead.’ Ac erbyn dechrau’r saithdegau yr oedd Owen Edwards, ar y pryd yn Bennaeth Rhaglenni’r BBC yng Nghymru, yn datgan bod rhaglenni o’r cynadleddau enwadol yn ‘utterly boring’!

Ar gynfas ehangach, erbyn y saithdegau yr oedd angen ail-ddiffinio’r ‘diwylliant Prydeinig’, gyda’r BBC yn ymwybodol bod dylifiad sylweddol o ddilynwyr crefyddau eraill wedi dod i Brydain, yn Islamiaid, Hindźiaid, Bwdiaid, Sikhiaid, a chrefyddau lleiafrifol yn ogystal â’r dyneiddwyr. Bellach yr oedd yn rhaid mentro i fyd newydd lle nad oedd un diwylliant yn berthnasol a lle nad oedd un ffordd o feddwl nac un set o gredoau a gwerthoedd yn bod. Yr oedd cynnydd yn y galw am gofio lleiafrifoedd a phwysau ar yr Adran Ddarlledu Crefyddol i fod yn aml-ffydd. Penderfynodd CRAC, y corff canolog hwnnw, y dylai darlledu crefyddol bellach fod yn ‘predominantly but not exclusively Christian.’ Yr oedd Thought for the Day, a oedd wedi disodli Lift up your Hearts, yn ymladd i wthio’r ffiniau ac i symud oddi wrth y syniad Reithaidd mai ‘Cristioneiddio Prydain’ oedd yr egwyddor sylfaenol i ddarlledu.

Cofier bod Reith wedi ymddeol yn 1938, ddwy flynedd ar ôl i deledu gael ei gyflwyno. Oherwydd ymyrraeth yr Ail Ryfel Byd fe ail-lansiwyd teledu yn 1946 ond isel iawn oedd nifer y trwyddedau teledu am rai blynyddoedd: llai na 15,000 tros Brydain gyfan yn 1947. Yr hwb pennaf i boblogeiddio teledu fu’r Coroni yn 1953. Newidiwyd yr holl sylfeini yn 1954 pan basiwyd Deddf Teledu i ganiatáu dyfodiad teledu masnachol.

Doedd Siarter y BBC na’r ddeddf newydd ddim yn gosod unrhyw ofynion statudol ar gwmnïau parthed darlledu ‘crefyddol’. Bryd hyn, roedd darlledu crefyddol ar deledu wedi ei gyfyngu i oriau penodol. Digwyddodd hynny’n rhannol oherwydd:

Erbyn hyn yr oeddwn i fy hun yn rhan o’r Adran Ddarlledu Crefyddol yng Nghymru, adran nad yw’n bod ers blynyddoedd er ei bod yn dal mewn bodolaeth yn Lloegr, yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon. Yn fy marn i, camgymeriad oedd dileu’r Adran. Roedd y canlyniad ar gynnyrch crefyddol yn anochel. Ond fu dim smic o brotest ar y pryd o du’r eglwysi na’r enwadau.

Yn Ebrill 1964 y penodwyd fi yn Gynorthwyydd Teledu yn yr Adran. Y Parchedig Tregelles Williams oedd pennaeth yr adran erbyn hynny ac roedd John Owen Jones yn tynnu at ddiwedd ei yrfa ym Mangor. Pennaeth yr adran yn Llundain oedd yr Anrhydeddus Kenneth Lamb, lleygwr goleuedig. Fe gofiaf ddarlith ganddo, yn y gyfres Lunchtime Lectures, lle’r honnodd: “It is our job to disturb the comfortable and to comfort the disturbed.” Dyna i mi y diffiniad gorau ar y pryd o fwriad ein Hadran ni.

I rai a’i holynodd yn y swydd roedd gormod o gysur yn lliniaru gwaith yr adran yn fewnol. Roedd darlledu crefyddol bellach fel llong bleser ar y cefnfor heb ymwybod o’r sefyllfa real. “Anaml,” meddai David Winter, Pennaeth Darlledu Crefyddol yn niwedd yr wythdegau, “y byddai rhai’n chwysu na thorchi llewys.” Siarad am Lundain yr oedd o! Aeth yn ei flaen: ‘Programmes were devised, chewed over, planned, discussed over a couple of bottles of claret…’ Graddedigion Caergrawnt a Rhydychen bron yn ddi-feth oedd y criw yma, ysgol fonedd cyn hynny a dyfodol sicr fel deoniaid neu esgobion o’u blaen wedi i’w gyrfa ddarlledu ddarfod.

Dynion ordeiniedig oedd y rhan fwyaf o staff yr Adran. Dyna pam yr oedd yna ddrwgdybiaeth gyffredinol mai Eglwys Loegr wrth feicroffon oedd hanfod darlledu crefyddol o hyd. Bu’n rhaid cael sêl bendith Caergaint ar benodiad Kenneth Lamb. Doedd y cyslltiad rhwng yr Adran a’r eglwysi, yn Lloegr o leiaf, ddim yn un esmwyth ar y pryd gan fod polisi’r Adran, ym myd teledu yn bennaf, yn un ryddfrydol. Roedd arweinwyr yr eglwysi ac aelodau CRAC o’r farn y dylai’r Adran fod yn llawer mwy ceidwadol gan droedio’r llwybrau y credai’r confensiynol y byddent yn fwy derbyniol gan y gynulleidfa. Ar yr adeg hon y daeth y ddadl ar rôl ‘ymgynghorol’ CRAC i’r amlwg, cyfnod pan oedd 3% o holl gynnyrch y BBC yn nwylo’r Adran.

Ond gyda dyfodiad Radio 1, 2, 3 a 4 a’r 40 gorsaf leol a oedd yn yr arfaeth, yr oedd hyd yn oed cynhyrchwyr crefydd sidêt yn Llundain yn sylweddoli bod newid sylfaenol yn y gwynt, a bod cystadleuaeth teledu yn ymledu hefyd i orsafoedd radio.

Yr oedd i’r Adran feirniadaeth lawer mwy ffyrnig gan bobl ddylanwadol a llafar a gredai nad oedd gan ‘gulni crefyddol’ le yn y gymdeithas fodern. Erbyn yr wythdegau roedd yna bwysau mawr i ddileu’r Daily Service ar Radio 4. O blaid y rhaglen yr oedd y ffaith ddiymwad bod iddi gynulleidfa enfawr. Ac ar deledu roedd 8 miliwn o wylwyr Songs of Praise yn llawer uwch na chynulleidfa Match of the Day.

‘Roedd y ‘God Slot’ wedi hen fynd. A da o beth oedd hynny. Er bod rheswm teilwng i’w greu yn y lle cyntaf gwendid y cyfyngu oedd:

Ar deledu byddwn yn cynhyrchu Addola Dduw, Viewpoint a Meeting Point i’r rhwydwaith, Songs of Praise i BBC 1, a Dechrau Canu Dechrau Canmol a’r Oedfa i BBC Cymru. Yr oedd radio yn cynnwys Oedfa’r Bore, Morning Service a Sunday Half Hour i Radio 2, Choral Evensong ac oedfaon i World Service a myfyrdodau o’r stiwdio am chwarter awr bob bore Mawrth a Gwener. Ni hefyd a fyddai’n cynhyrchu’r Apeliadau misol i elusennau.

Byddai darlledu defosiynol o stiwdio ac o eglwysi ar radio yn ‘fyw’, fel y byddai’r gynulleidfa o wrandawyr yn gwybod eu bod yn ymuno ag addoliad a oedd yn digwydd ar y pryd. Hynny yw, yr oeddynt yn ‘cyd-addoli.’ Nid pecyn destlus wedi ei olygu oedd oedfa radio. Mae pethau’n wahanol heddiw oherwydd costau. A diwedd y gân yw’r geiniog – medden nhw!

Ar deledu, oherwydd y gost o gymryd Uned Deledu Allanol i wahanol ardaloedd, recordio oedfaon y bydden ni. Bellach, eithriadau prin yw oedfaon ar deledu. Bellach hefyd mae’r dirywiad yn y niferoedd sy’n mynychu lle o addoliad yn golygu newid yn y diwylliant. Ond y mae ’na filoedd o hyd, os nad miliynau, yn dibynnu ar y cyfryngau am gynhaliaeth ysbrydol ac am gefnogaeth. Ac mae honno’n gynulleidfa ffyddlon a theyrngar.

Ers blynyddoedd mae’r pwysau wedi cynyddu ar yr angen am ddarlledu aml-ffydd. I orsafoedd ‘lleol’ yn Lloegr fe gydnabuwyd y dimensiwn ‘ysbrydol’ ar draul y Cristnogol. Y mae’r ymagweddu crefyddol at fywyd yn mynd y tu hwnt i gredoau ac yn cydnabod gwerthoedd amrywiol – a all fod yn wir, yn rhannol wir neu’n ffugiad celwyddog. Nid mater i unrhyw gyfundrefn ddarlledu yw deddfu ar hynny.

Bu cynnig teg gan David Winter yn y nawdegau i gael troedle crefyddol ar Radio 1. A’r ymateb gan Reolwr Gyfarwyddwr yr orsaf honno: ‘I don’t want a lefty bishop queerying our pitch.’ Yr oedd, yn wir, angen doethineb Solomon ac amynedd Job.

Gyda dyfodiad John Birt fe newidiwyd y BBC tu chwith allan. Y termau cyfredol, ffasiynol [y buzz-words] bellach oedd cost effectiveness, rationalization, internal market ac independent production. Ac nid sôn am Annibynwyr yr oedd o! Er mwyn bod yn gost-effeithiol fe grewyd ‘canolfannau rhagoriaeth’. Trosglwyddwyd yr Adran Ddarlledu Crefyddol o Lundain i Fanceinion ac ymhen amser newidiwyd yr enw i Religion and Ethics Department.

Un canlyniad i ddileu’r Adran yng Nghymru yw nad oes bellach unrhyw gyfle i gynhyrchwyr ‘crefydd’ yng Nghymru gyfarfod a thrafod â chynhyrchwyr tebyg yn Lloegr, yr Alban na Gogledd Iwerddon. I’r graddau hynny, aeth ‘broadcasting’ yn ‘narrow casting’. Diflannodd presenoldeb rhaglenni crefyddol yn llwyr oddi ar y sgrin deledu ac eithrio Songs of Praise a Dechrau Canu Dechrau Canmol. Ac roedd hynny’n wir am gyfnod y Nadolig, fel y dadleuodd Pryderi Llwyd Jones mewn llythyr i’r wasg. Teledu, fe ddadleuwn i, yw’r cyfrwng ‘cenhadol’. Radio, yn ddiamau, yw’r cyfrwng defosiynol. Mae’n gyfrwng personol, un ac un; mae’n ddelfrydol ar gyfer myfyrdod a gweddi.

Fe gyfeiriais yn gynharach at ehangu sianeli. Canlyniad i Ddeddf Darlledu 1990 oedd sefydlu nid 40 ond 400 o sianeli radio lleol a chymunedol. Ac mae’r teledu trwy loeren wedi ychwanegu ugeiniau o sianeli eraill. Bellach mae teledu analog ar fin diflannu ar allor y duw digidol. Ychwanegwch at hynny y ffrwydriad o dechnoleg trwy gyfrifiadur a ffôn ac fe welwch fod ‘darlledu’ wedi datblygu’n aml-gyfryngol a rhyngwladol. Yr unigolyn bellach, nid cyfundrefn, yw rheolwr y gwasanaethau hyn. Ein cyfrifoldeb ni yw gweld a gwrthod yr hyn nad yw at ein chwaeth. Ni sy’n defnyddio’r cyfryngau i gyfathrebu pob math o negeseuon. Dan amodau fel hyn does dim rheolaeth a does dim raid ichi roi’ch enw i’ch cynnyrch. Fe allwch aros yn ddienw.

Beth, wedyn, am ‘delefengylu’ [televangelism]? Tros y degawdau yn America mae’r eglwysi a’r enwadau crefyddol wedi perchnogi eu gorsafoedd radio a theledu eu hunain. Ar un adeg roedden nhw’n orsafoedd proffidiol beth bynnag am fod yn orsafoedd proffwydol. Erys cyfundrefn radio a theledu yr Eglwys Babyddol yn un bwerus. A bu cyfnod pan ystyriai’r dde eithaf o’r garfan ffwndamentalaidd mai cyfle oedd y ffrwydriad electronig ‘i anelu rhaglenni Cristnogol dros y ffiniau i fyd gwrth-Gristnogol.’ Ond daeth tro ar fyd. Tua diwedd wythdegau’r ganrif ddiwethaf fe siglwyd y math hwn o ddarlledu i’w seiliau gan bob math o sgandalau. Sigwyd gweinidogaethau y tu hwnt i’w hadfer.

Bu cwyn yn ddiweddar fod y BBC yn hytrach nag ymestyn ffiniau darlledu crefyddol yn eu gwthio i’r ymylon – marginalization. Dyw’r Rheolwr Gyfarwyddwr, Mark Thompson ddim yn cytuno. ‘O’r lle dw i’n eistedd,’ meddai, ‘mae e ynghanol y llwyfan; yn ddeinamig, yn gymhleth ac mae ynddo’r potensial i ffrwydro.” Â ymlaen i sôn am Popetown, rhaglen Gerry Springer, priodas Charles a Camilla, marwolaeth y Pab Ioan Pawl ll, etholiad y Pab Benedict. ‘Mae Cristnogion’, meddai, ‘yn teimlo eu bod wedi eu gwthio i’r ymylon, am nad yw’r rhaglenni maen nhw’n eu cynnig ac yn galw amdanynt yn cyrraedd y safonau. Rhaid wrth adfywiad creadigol, ffresni mewn perthynas â’r gynulleidfa, syniadau newydd …’ Wel, does dim byd newydd fan’na!

I grynhoi, yr ydym wedi symud ymhell iawn o fyd monopoli cyfryngol. Y mae ‘darlledu cyhoeddus’ yn dal i fod, a thrwyddedau yn cael eu hennill i sicrhau’r fraint o ddarlledu. Mae’r gynulleidfa wedi ei rhannu’n deneuach o lawer ac mae hynny’n wir am y gynulleidfa Gymraeg fel pob cenedl arall.

Dywed y sawl sy’n gyfrifol am ystadegau Radio Cymru a Radio Wales wrthyf eu bod yn fodlon ar ffigyrau gwrando y cynnyrch crefyddol presennol, sef pum mil ar hugain i Oedfa’r Bore, a Caniadaeth y Cysegr, sydd wedi colli ychydig ac i lawr i ugain mil. Mae pymtheg mil ar hugain yn gwrando ar Bwrw Golwg ar fore Sul a thebyg yw’r gynulleidfa sy’n gwrando ar Dweud eich Dweud o fore Llun i fore Gwener oddi mewn i gloriau’r Post Cyntaf. Fe sylwch hefyd fod rhyddid bellach i’r seciwlar ddweud eu dweud. [Roedd hi’n well gen i’n bersonol yr hen deitl, sef Munud i Feddwl.] Hanner can mil yw’r nifer i Celebration tra bo saith deg pump o filoedd yn gwrando’n gyson ar All Things Considered.

Rhowch y ffigyrau hynny yng nghyd-destun y ffaith ei bod yn batrwm i bob gwasanaeth radio mai ‘awr fawr’ y gwrando yw rhwng 7.30 ac 8.30 y bore. Mae teledu ar y llaw arall yn cyrraedd ei binacl rhwng saith a naw y nos.

Pan lansiwyd S4C yr arfer oedd sefydlu nifer mawr o gwmnïau bach ac annibynnol. Yn eu plith yr oedd cwmni neu ddau a oedd yn cynnwys gweinidogion yr efengyl a’u bryd ar gynhyrchu rhaglenni crefyddol. Llwyddwyd i gael rhai cyfresi byrion wedi eu comisiynu gan y sianel. Yr enghraifft olaf o gynnyrch crefyddol oedd Hanfod gan Gwmni Elidir ar brynhawniau Sul, gyda’r pwyslais ar ddarparu rhaglen ar gyfer y rhai oedd yn methu, neu’n dewis peidio, â mynychu oedfaon. Cylchgrawn crefyddol oedd Hanfod a gyflwynai ddefosiwn a thrafodaeth. Arwydd o’r amserau yw bod y rhaglen hon hefyd wedi dod i ben yn gymharol ddiweddar, er nad oedd yr amser a roddwyd iddi (sef yn fras, rhwng dau a thri y prynhawn) yn agos i’r oriau brig.

Mae darlledwyr proffesiynol cyfoes yn gweld ‘hen fodryb’ fel y BBC yn bodoli i herio gwerthoedd traddodiadol yn hytrach nag i feithrin y gwerthoedd hynny. Honnir nad ffurfio agweddau cymdeithas ond yn hytrach eu hadlewyrchu yw swyddogaeth y cyfundrefnau darlledu.

Mae egwyddorion golygyddol Adran Religion and Ethics yn mynnu:

Sut, yn yr oes sydd ohoni, y byd go iawn, y mae canfod hanfodion darlledu crefyddol?

Ni ddylem ddigalonni wrth y duedd gyfoes i hepgor darlledu crefyddol o’r sianeli a’r rhwydweithiau sy’n bodoli. Onid edrych yn radical a ddylid ar fodolaeth y cyfryngau hyn a chymryd cyfrifoldeb am ddatblygu, o’u mewn, fodd i gynhyrchu syniadau mor ardderchog fel na allai unrhyw Gomisiynydd eu gwrthod. Gellid gwneud hynny ar lefel gymunedol, genedlaethol neu ryngwladol.

Does dim rheswm pam na allai Cristnogion fynnu sefydlu, o leiaf ddwy sianel benodol i’r pwrpas o gysuro ac o aflonyddu. Ond wedi ennill trwydded o’r fath byddai’n rhaid cynnal gwasanaeth llawn o ddarlledu am oriau bwygilydd. Nid cost yw’r unig dramgwydd. Dyw eglwysi, gan gynnwys llawer iawn o eglwysi Cymraeg, ddim yn brin o arian nac adeiladau y gellid eu haddasu i genhadaeth yr unfed ganrif ar hugain. Nid cyllid ond creadigrwydd yw’r maen tramgwydd. Sawl capel ac eglwys sydd wedi buddsoddi yn eu gwefannau eu hunain, a beth, tybed, yw effaith y gwefannau ar y rhai a fentrodd?

Ar fater yr adeiladau: beth sy’n digwydd yn ymarferol? Oni welwyd yn ddiweddar iawn gapel yn cau ym Mhen-tyrch a’i brynu gan ddau ifanc (sef Catrin Finch a Hywel Wigley) i’w droi’n stiwdio recordio cerddoriaeth. Pob lwc i’w mentr. Os yw’n adeilad y gellir ei addasu i recordio cerddoriaeth oni allai fod yn addas hefyd i bwrpas darlledu cenhadol a defosiynol?

Yn ystod y dyddiau diwethaf gwelir S4C, wrth gynllunio at yr oes ddigidol, yn dadlau dros sianel Gymraeg wedi ei neilltuo ar gyfer gofynion plant a phobl ifanc hyd at un ar bymtheg oed. Ar yr un pryd mae’r BBC newydd gyhoeddi bod BBC Jam, y sianel a neilltuwyd i ddiben addysgol, wedi ei dileu oherwydd cwynion o’r sector fasnachol i’r Comisiwn Ewropeaidd. Collwyd 200 o swyddi ac arbedwyd £150 miliwn. Rwy’n nodi hyn yn unig i ddangos mai cyfrwng sy’n newid ac addasu’n ddyddiol (bûm bron â dweud ‘yn dragwyddol’) i ofynion yr oes yw teledu. Ni ddylai darpar ddarlledwyr crefyddol yr unfed ganrif ar hugain golli golwg ar hynny. Ond mae’n gyfrwng drud ac yn gyfrwng sy’n llawcio creadigrwydd. Fedrwch chi ddim mynd o gapel i gapel yn dweud yr un bregeth yn y cyswllt hwn!

Mae radio hefyd yn gyfrwng sy’n newid, ac yn llawer iawn rhatach ei gyllideb. Hwyrach mai dyna’r ddarpariaeth synhwyrol cyntaf gan ystyried hefyd ddatblygu cryn lawer ar gyfrifoldeb Swyddogion Cyfathrebu’r gwahanol enwadau.

Yn hytrach na gadael y cyfrifoldeb i eraill, tybed a oes yna ewyllys o fewn yr eglwysi a’r enwadau i fentro agor y drysau a’r ffenestri led y pen i gyfathrebu’r efengyl – gan gynnwys y gwrthgilwyr sydd yn y clybiau a’r tafarnau, yn gwisgo hoodies am eu cefn a chapiau ar eu pen!

yn ôl