Newyddion







Cyfieithiad Alun o ran o The Fall of Freddie the Leaf gan Leon Buscagli ar gyfer gwasanaeth 26 Hydref 2008


Dysgub y Dail

...

Bron ar unwaith trawsffurfiwyd y goeden gyfan. Yn wir, roedd y Parc i gyd yn un tanllwyth o liw. Prin bod un ddeilen werdd ar ôl. Trodd Guto’n felyn, Wil yn oren llachar, Beti’n fflamgoch, Daniel yn borffor fel y grug, a Dai yn goch, glas a gwyrdd. Mor hardd yr oeddynt ynghyd. Gwnaeth Dai a’i ffrindiau y pren yn Enfys odidog.

‘Pam y troesom yn wahanol o ran lliwiau,’ meddai Dai, ‘a ninnau oll ar yr un pren?’

‘Mae pob ohonom yn wahanol. Cawsom brofiadau gwahanol. Yr ydym wedi wynebu’r haul o wahanol gyfeiriadau. Yr ydym wedi bwrw cysgodion yn wahanol. Pam lai na allwn fod o liwiau gwahanol’? Dywedodd Daniel hyn yn gryf.

A dywedodd wrth Dai Deilen mai enw’r tymor hwn oedd YR HYDREF, tymor dysgub y dail.

Un diwrnod digwyddodd peth rhyfedd iawn. Dyma’r awelon a fu’n help iddynt ddawnsio gynt yn dechrau eu gwthio, eu hyrddio a’u tynnu oddi ar eu bonion. A oedd yr awelon yn gas? Tynnwyd nifer o ddail o’r canghenau ac fe’u taflwyd i fyny gan y gwynt, eu chwipio o gwmpas, a’u gadael i ddisgyn yn dyner ar y tir.

Daeth ofn mawr ar y dail.

‘Beth sy’n digwydd?’ sibrydai pawb.

‘Dyna sy’n digwydd yn yr hydref’ oedd sylw Daniel. ‘Daeth yn amser i’r dail i gyd newid eu cartref. Marw yw gair rhai pobol am hyn.’

‘Fyddwn ni oll farw?’ gofynnodd Dai Deilen.

‘Byddwn’ oedd ateb Daniel; ‘mae popeth yn marw. Nid oes wahaniaeth pa mor fawr neu pa mor fach ydym ni, pa mor gryf na pha mor wan. Fe fyddwn yn gwneud ein gorchwyl yn gyntaf – cawn brofiad o’r haul a’r lloer, y gwynt a’r glaw. Fe ddysgwn sut i chwerthin a sut i ddawnsio. Yna, rydym yn marw.’

‘Fydda i ddim yn marw,’ meddai Dai gyda phendantrwydd, ‘ Fyddi di Daniel?’

‘Bydd yn rhaid i mi fynd,’ atebodd Daniel ‘pan ddaw fy amser.’

‘Pa bryd fydd hynny?’

‘Does neb yn gwybod i sicrwydd,’ oedd ateb Daniel.

Sylwodd Dai fod y dail eraill yn dal i ddisgyn ac meddai wrtho’i hun, ‘Mae’n rhaid bod eu hamser wedi dod.’

Gwelodd rai o’r dail yn brwydro yn erbyn y gwynt cyn disgyn tra oedd eraill yn fwy parod i ollwng gafael a chwympo’n dawel. Cyn pen dim roedd y goeden bron yn foel.

‘Mae arna i ofn marw,’ meddai Dai Deilen wrth Daniel. ‘Does gen i ddim syniad beth sydd i lawr fan’na.’

‘Mae arnom ni oll ofn yr hyn na wyddom ni fawr amdano, Dai. Mae hynny’n naturiol,’ meddai Daniel. ‘Eto doedd dim ofn arnat ti pan drodd y gwanwyn yn haf a’r haf yn hydref. Roedd y cyfan mor naturiol. Pam felly mae arnat ti ofn tymor marwolaeth?’

‘A yw’r goeden yn marw hefyd?’

‘Rhyw ddydd. Ond mae rhywbeth cryfach na’r goeden. BYWYD yw hwnnw. Mae hwnnw’n para byth. Ac mae pawb ohonom ni â rhan mewn Bywyd.’

‘I ble’r awn ni ar ôl inni farw?’

‘Does neb yn gwybod yn iawn. Dyna’r dirgelwch mawr.’

‘A ddychwelwn ni yn y gwanwyn?’

‘Wnawn ni ddim. Ond fe fydd Bywyd yn dychwelyd.’

‘Ond pam bod yma o gwbl os mai disgyn a marw yw’r cyfan?’

Atebodd Daniel yn ei ffordd athronyddol – ‘Bu’r cyfan er mwyn derbyn golau’r haul a’r lleuad; er mwyn rhoi cysgod i’r plant a’r hen bobol ac er mwyn dangos lliwiau’r hydref. Ydi hynny ddim yn ddigon?’

Y prynhawn hwnnw, yng ngolau euraid y machlud, gollyngodd Daniel ei afael. Disgynnodd yn ddiymdrech gan wenu wrth ddisgyn. ‘Da bo ti am y tro, Dai,’ meddai.

A dyna lle’r oedd Dai, ar ei ben ei hun. Yr unig ddeilen ar y pren.

Disgynnodd yr eira cyntaf y bore canlynol. Roedd yn feddal, yn wyn ac yn oer iawn. Prin y gwelwyd yr haul y diwrnod hwnnw.Teimlai Dai yn welw; wedi colli ei liw ac yn crino. Yr oedd yn oer a phwysau’r eira yn faich arno.

Gyda’r wawr daeth y gwynt a chymryd Dai oddi ar y pren.

Chafodd e ddim dolur. Teimlai ei hun yn plymio’n araf ac esmwyth. Ac wrth ddisgyn, gwelodd y Pren yn gyfan am y tro cyntaf. Mor gryf a chadarn oedd y Pren! Yr oedd yn sicr y byddai’n byw yn hir eto.

Cofiodd iddo fod yn rhan o fywyd y Pren – a theimlodd yn falch ohono’i hun.

yn ôl