Myfyrdod Gwenno ar gyfer gwasanaeth 15 Tachwedd 2009
Cofio
Mae mis Tachwedd yn fis y Pabi Coch, mis y cadoediad, mis y cofio. A dyna’r hyn y byddwn ni yn ei ystyried heddiw – cofio.
Mae’r geiriau cofio, atgoffa, atgofion, ac anghofio i gyd yn deillio o’r gair cof. Ymdrech i gadw pethau’n fyw yw’r defnydd o’r cof. Mae bwrdd y Cymun yn cofio’r Swper Olaf ac aberth Iesu Grist wrth gwrs.
Dydw i ddim yn athronydd nac yn seiciatrydd, ond dwi’n meddwl bod y cof yn rhywbeth anhygoel. Ond rwy’n un o’r bobl sydd â chof dethol iawn. Rwy’n gallu cofio’r manylion lleiaf am brofiadau pleserus ac amseroedd da ond niwlog yw fy nghof am y troeon imi gael clec yn y car!
Wrth agosáu at ddiwedd y ddegawd gyntaf o’r ail fileniwm, mi fyddwn yn cofio miri’r dathliadau yn y ‘Dome’ yn Llundain – Tony Blair a’r frenhines yn edrych yn anghysurus iawn wrth blethu breichiau i ‘Auld Lang Syne!’ A holl sbloet y tân gwyllt ar draws y byd!
Ond beth fyddwn ni’n ei gofio fel prif ddigwyddiadau’r ddegawd?
- 9 /11, y dyddiad y siglwyd y byd
- rhyfel Irac (a ble mae’r arfau?)
- crogi Saddam Hussein
- corwynt Katrina
- y Tsunami
- ...........
Ac yna dyna ddiwylliant y celebs, yr enwogion bondigrybwyll: Jade Goody, Simon Cowell, David Beckham, ac yn y blaen.
Mi fyddwn yn cofio’r dwys a’r dibwys. A druan o Barrack Obama – mi fydd pwysau’r ddegawd nesaf yn drwm ar ei ysgwyddau ef.
Ac yma yng Nghymru, wrth gwrs, mae gennym sumbolau gweledol o’r ddegawd: Stadiwm y Mileniwm, Canolfan y Mileniwm a’r Senedd yn y Bae.
Ac wedi eu plethu yn ein cof, mae ein hanes personol a’n hanes cenedlaethol.
Ond wrth inni gofio, mae’n bwysig inni gofio’r da a’r drwg: mae yna gysylltiad rhwng y cof a’n cydwybod. Pan welwn yr arwydd COFIA DRWYWERYN, mae cwestiwn o gydwybod yn codi.
A sut mae’n cydwybod ni yn ymdopi â phobl fel Nick Griffin a fu’n ddiweddar ar Question Time? Ychydig iawn sydd wedi bod yn y wasg am y ffaith mai yn Llanerfyl mae Nick Griffin yn byw. Mae’n anodd dweud enw Siân James, Aelwyd Dyffryn Banw, a Pharti Cyt Lloi yn yr un frawddeg â Nick Griffin. Dydy Nick Griffin ddim yn cydnabod bod dros 6 miliwn o Iddewon wedi eu lladd yn yr Ail Ryfel Byd. Dogma casineb yw dogma’r BNP ac i filiynau o bobl fe gaiff Nick Griffin ei gofio fel lladmerydd casineb.
Ond y cwestiwn mawr i bob un ohonon ni yw SUT Y CAWN NI EIN COFIO?
Os byddwn ni’n dilyn esiampl Iesu Grist, gobeithio y cawn ni ein cofio am fod yn bobl sydd yn caru, am fod yn bobl sy’n rhannu, am fod yn bobl sy’n maddau ac am fod yn bobl sy’n fodlon cerdded y filltir olaf.
Mae John Gwilym Jones wedi crynhoi’r syniad yma’n berffaith yn ei gerdd Mesur Dyn:
- Pan gaiff dyn ei fesur, gofynnir gan Dduw
- Nid sut y gwnaeth farw, ond sut y gwnaeth fyw.
- Nid faint a wnaeth ennill, ond faint fyddai’n roi,
- Ac a fyddai yn aros pan oedd eraill yn ffoi.
- Nid beth oedd ei gred ond beth fyddai’n ei wneud
- A faint oedd e’n deimlo, nid faint allai’i ddweud.
- Nid uchder ei feddwl, ond dyfnder ei ras
- A’i gymeriad tu fewn, nid ei wên y tu fas.
- Nid faint oedd y deyrnged gan bawb i hen ffrind,
- Ond faint deimlodd golled ar ôl iddo fynd.
- Mae’n dda dweud na allai fyth golli’r un cwrdd
- Ond gwell dweud na throai ’run truan i ffwrdd.
- A bu yn oleuni mewn ambell i nos
- A throchi ei hun i ddwyn cyfaill o’r ffos.
- Ie, dyna’n y diwedd y modd y gwêl Duw
- Pa enaid sy’n farw a pha enaid sy’n fyw.
Ac mae rhywbeth i bob un ohonom gnoi cil arno yma.