Newyddion







Alun yn Dweud ei ddweud ar Radio Cymru, 9 Rhagfyr 2009

Bore da!

Pwy oedd yr offeiriad oedd yn cwyno am eiriau siwgwrllyd rhai carolau, dedwch? Heddiw, ar fore datganiad o fwriad gan y Canghellor, pwy a’i law ar ei galon all ganu ‘Nid wy’n gofyn bywyd moethus, aur y byd na’i berlau mân’?

Fe fydd ein holl sylw ni ar yr hyn a fydd gan Alastair Darling i’w ddweud yn ei Gyllideb. Sut y gall y Canghellor adnewyddu’r economi? Fe ŵyr beth yw’r disgwyliadau. Ac mae’n llawn sylweddoli y gall codi trethi ostwng y bleidlais.

Sut y bydd hi’n effeithio arno ni, ac ar ein pocedi ni? Mae’r dirwasgiad yn brathu, yr esgid fach yn gwasgu. Mae’r ‘diwylliant o ormodedd’ yn ein llethu. Y ddegawd o ddyled yn ein tagu; degawd o afradlonedd yn ôl rhai sylwebyddion.

‘Beiwch y bancwyr’ yw’r gri. Toll ar eu trachwant. Trethiant ar fethiant. Welwch chi’r bras-benawdau? Yn y cyfamser mae cyllid derfynol Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer economi Cymru 2010/2011 wedi cymryd i ystyriaeth sut i rannu’n deg rhwng gofynion yr amgylchedd a chefn gwlad ac addysg, iechyd a gofal cymdeithasol a llywodraeth leol a phlant ... a phopeth. A diolch fod yna arbenigwyr ar gael i ddehongli a chynghori ar y materion dyrys yma; wel, dyrys i mi sut bynnag.

Ydi, mae’n ‘ganol gaeaf noethlwm.’ Beth am y garol honno:

Beth a roddaf iddo, llwm a thlawd fy myd?
Pe bawn fugail rhoddwn orau’r praidd i gyd;
Pe bawn un o’r doethion gwnawn fy rhan ddi-goll;
Ond pa beth a roddaf? Fy mywyd oll.

Nid siwgwr ond sbeis!

Bore da!

yn ôl