Trefniadaeth




Gweithgorau Bethlehem

Hwylusir gwaith yr eglwys gan dri gweithgor:


Y bwriad wrth sefydlu’r pwyllgorau hyn oedd rhoi cyfle i bob aelod gael llais yn yr hyn sy’n digwydd oddi mewn i’r eglwys a thu hwnt. A hynny’n ychwanegol at yr hyn sy’n cael ei wneud gan y swyddogion a’r diaconiaid.

Y gobaith, felly, yw sicrhau ffresni cyson i’n syniadau ac ychwanegu’n helaeth at ein tystiolaeth. Mae’r gweithgorau hefyd yn rhoi cefnogaeth ymarferol i’r gweinidog wrth ei waith yn arwain yr eglwys.

Rydym eisoes yn weithgar ac ymroddgar ond gyda’n gilydd gallem gyflawni cymaint yn fwy. Anogwn bob aelod i ymuno ag un neu fwy o’r gweithgorau er mwyn rhannu’r baich a chynnal y fflam.



Gweithgor Addoli

Cydlynydd: Y Gweinidog


Nod

Cadw gorolwg ar drefn, cynnwys, a chyfeiriad gweithgareddau addoli’r Eglwys


Meysydd

Calendr gwasanaethau'r capel


Yr Ysgol Sul


CAIB


Cerddoriaeth

yn ôl



Gweithgor Cristnogaeth Ymarferol

Cydlynydd: Marian Evans


Nod

Hyrwyddo gweithgaredd elusengar a chymdeithasol yr Eglwys gan gryfhau’r ymrwymiad i gyfrannu ac i berthyn


Meysydd

Gweithgareddau elusengar


Gweithgareddau cymdeithasol a chodi arian

yn ôl



Gweithgor yr Adeiladau

Cydlynydd: Wyn Jones


Nod

Gofalu am gyflwr a diddosrwydd yr adeiladau, a threfniadau eu cynnal a’u defnyddio.


Meysydd

yn ôl