Te i’r Difreintiedig
Mae eglwys Bethlehem yn gyfrifol am baratoi te i’r difreintiedig yng Nghapel y Tabernacl, yng nghanol y ddinas, bedair gwaith y flwyddyn.
Bydd criw o bedwar ohonom yn treulio rhyw ddwy awr ar brynhawn Sul yn gweini te a brechdanau i drigolion difreintiedig y ddinas. Ie, difreintiedig yn hytrach na digartref oherwydd yn ôl yr awdurdodau mae lloches ar gael i bawb yn y ddinas erbyn hyn.
Adar brith iawn yw’r clientiaid sy’n dod am baned ar bnawn Sul: amrywiol eu hoedran, eu lliw, a’u cefndir. Mae llawer ohonynt yn unig ac yn ddigyfeiriad ac yn ddiweddar gwelwyd mwy o bobl ifanc ymhlith y mynychwyr selog.
Mae gan Fethlehem ‘fanc’ o wirfoddolwyr sy’n mynd i’r Tabernacl yn eu tro. Ond mae croeso i wirfoddolwyr newydd wrth gwrs!
Does dim angen cymhwyster arbennig – dim ond y gallu i wneud brechdan reit dda, arllwys te, a chynnig gwên! A does dim eisiau ryseitiau Jamie Oliver i wneud y brechdanau: rhai ham neu gaws sy’n cael y croeso mwyaf. Cyn belled ag mai gwyn yw lliw’r bara!
Mae bod yn rhan o’r gweithgaredd yma yn dipyn o brofiad – ond mae’n brofiad gwerth chweil. Reality check go iawn. Mae’n rhy hawdd inni ynysu ein hunain oddi wrth y byd mawr a chau ein llygaid i broblemau anghyfforddus fel hyn.
Ond mae’r problemau yma yn bod. Ac felly dyw gwneud dim ddim yn opsiwn.
yn ôl