Bethlehem a’r byd






Plan International

Elusen sy’n ceisio gwella safonau byw mewn gwledydd sy’n cael eu datblygu yw Plan International. Mae gwybodaeth lawn am yr elusen i’w gweld yma.

Mae noddi plentyn drwy’r cynllun yma yn costio £12 y mis ac mae Bethlehem yn noddi chwech o blant. I gyrraedd y nod, mae nifer o’r aelodau’n cyfrannu symiau gwahanol yn fisol, ac mae’r capel yn cyfuno’r rhoddion.

Mantais y drefn hon yw bod rhyddid i’r aelodau ddewis maint eu cyfraniadau misol. Ond yn y pen draw, cyfrifoldeb Bethlehem yw noddi’r plant a byddwn yn gwneud hynny ni waeth beth fo cyfanswm y rhoddion.

Logo Plan International

yn ôl