Elusen 2008-2009: BanglaCymru
Bob dwy flynedd bydd aelodau Bethlehem yn dewis elusen leol i’w noddi. BanglaCymru oedd ein helusen yn ystod 2008-2009.
Cymydog inni, Wil Morus Jones, a sylfaenodd BanglaCymru, a hynny ar ôl ymweld â Bangladesh.
Un o wledydd tlotaf y byd yw Bangladesh. Ac un o ganlyniadau’r tlodi yw bod rhyw bum mil
o blant y wlad yn cael eu geni gyda thaflod neu wefus hollt.
Oherwydd diffyg cyllid a darpariaeth feddygol does neb yn cynnig triniaeth i’r rhan fwyaf o’r plant hyn.
Mater cymharol syml yw trin taflod neu wefus hollt, a dim ond £100 yw cost
pob llawdriniaeth.
Mae'r canlyniadau’n drawiadol.
Yn ogystal â bod yn elusen i’r eglwys, mae nifer o’r aelodau’n cyfrannu’n fisol at BanglaCymru. Mae hynny’n sicrhau incwm cyson ac yn golygu bod modd i’r arbenigwyr ym Mangladesh wybod sawl llawdriniaeth y gallant ei gwneud bob blwyddyn.
Os carech chithau gyfrannu at BanglaCymru, dyma’r manylion i’w rhoi ar fandad banc:
| Talu i | HSBC |
| Cangen | Pontypridd |
| Cod Didoli | 40-37-08 |
| Swm | £5 neu fwy os gwelwch yn dda |
| Enw’r buddiolwr | BanglaCymru |
| Rhif y Cyfrif | 11489615 |
| Dyddiad y taliad cyntaf | Dewiswch chi |
| Dyddiad ac amlder | Misol |
| Dyddiad y taliad olaf | Gadewch heb ei lenwi |
Ar ôl llenwi’r mandad, anfonwch ef at Wil Morus Jones, gan nodi’ch cyfeiriadau post ac e-bost ar y cefn. Dyma’r cyfeiriad:
| BanglaCymru |
| 1 Hospital Road |
| Y Comin |
| Pontypridd CF37 4AH |
Bydd Wil yn anfon adroddiad blynyddol atoch er mwyn ichi gael gwybod beth sy’n digwydd i’ch cyfraniadau.
yn ôl