Yr Ysgol Sul
Mae Ysgol Sul Bethlehem yn cwrdd yn y festri bob bore Sul yn ystod tymor yr ysgol.
Bydd y plant yn dod ymlaen i’r sêt fawr ar ôl yr ail emyn i ddweud eu hadnodau a gwrando ar stori gan y Gweinidog. Yna byddant yn gadael y gwasanaeth yng nghwmni’r athrawon.
Byddwn yn ceisio dysgu’r gwersi mewn modd bywiog a ffres. Y nod yw ceisio cysylltu hanesion y Beibl â materion cyfoes ac â sefyllfaoedd sy’n gyfarwydd i’r plant a’r bobl ifanc.
Mae’r Ysgol Sul hefyd yn gyfrifol am drefnu tri gwasanaeth yn ystod y flwyddyn sef y Cwrdd Diolchgarwch, Cyflwyniad adeg y Nadolig, a Gwasanaeth Gŵyl Ddewi. A byddwn yn cyfrannu at y gwasanaeth arbennig yn ystod wythnos Cymorth Cristnogol.
Drama Nadolig 2007
Yr athrawon ar hyn o bryd yw Marged Cartwright ac Eirian Samuel, gyda help Enid Evans, Ffion Lewis, Marged Siôn, Betsan Thomas, Angharad King a Rhydian King, a Heulwen Jones yn ceisio clymu’r cwbl at ei gilydd. Ond rydym bob amser yn chwilio am athrawon ychwanegol. Felly os ydych chi’n awyddus i ymuno â’r tîm bach, rhowch wybod i Heulwen. Fydd dim gofyn ichi ddod allan i’r festri bob wythnos!
Mae’r Ysgol Sul yn tyfu’n gyflym y dyddiau hyn, ond mae wastad le i ragor ymuno â ni.
Mae croeso cynnes i blant o bob oed yn Ysgol Sul Bethlehem.