Ble mae Bethlehem?
Fel y mae’r enw yn ei awgrymu, pentref wrth droed Twyn y Garth yw Gwaelod-y-garth, ychydig i’r gogledd i Gaerdydd, ar yr ochr orllewinol i afon Taf a’r A470.
I gyrraedd Bethlehem, ac os oes gennych dywysydd lloerennol, gosodwch y teclyn i’ch arwain i CF15 9HL.
Fel arall:
- trowch oddi ar yr A470 i gyfeiriad Radur a Phen-tyrch
- trowch i’r dde ar y cylchfan, i gyfeiriad Pen-tyrch
- ewch heibio i ystad ddiwydiannol fach ar y dde
- ewch heibio i Heol y Garth a Heol Berry ar y dde
- trowch i’r dde ar waelod y tyle
- maes o law fe welwch Fethlehem ar yr ochr chwith
Mae’r map yma yn dangos lleoliad Gwaelod-y-garth.
yn ôl