Aelodau Bethlehem
Eglwys annibynnol yw Bethlehem ond nid eglwys o Annibynwyr traddodiadol yw hi.
Un or pethau syn hynodi Bethlehem yw bod cynrychiolaeth o sawl traddodiad yn ein plith, gan gynnwys Eglwyswyr, Crynwyr ac Undodiaid.
Ac fel aelodaur eglwysi eraill yng Nghaerdydd ar cylch, rŷn ni’n dod o bob rhan o Gymru.
Pan ddewch chi i un o’n cyfarfodydd, felly, byddwch yn siŵr o gwrdd â rhywun a fagwyd yn eich bro, a buan iawn yr ymgartrefwch yn ein plith.
Dosbarth derbyn 2008
Gwasanaethu’r pentrefwyr yr oedd Bethlehem ar y dechrau, wrth gwrs. Ond bellach daw’r aelodau o ardal ehangach lawer:
- Gwaelod-y-garth a Phen-tyrch
- Ffynnon Taf, Tongwynlais a Mynydd Caerffili ar lannau dwyreiniol afon Taf
- Radur, Pentre-poeth, yr Eglwys Newydd, y Mynydd Bychan, Rhiwbina, Llys-faen a Llanfihangel-y-fedw ar gyrion gogleddol Caerdydd
- Llantrisant, Meisgyn, y Creigiau, a Rhydlafar y tu hwnt i Dwyn y Garth
- Llandaf, Treganna, Grangetown a Phenarth yn ne-orllewin y brifddinas
Er mwyn cadw mewn cysylltiad â’n holl aelodau, mae gennym ddiaconiaid cyswllt i bob ardal.