Yr adeilad
Ar un wedd, does dim byd yn arbennig iawn am Fethlehem. Y capel, hynny yw, nid y bobol! Dyw adeilad Bethlehem yn ddim ond lle cyffredin ar y brif ffordd drwy bentref gwledig Gwaelod-y-garth.
Y tu allan, mae’r cynllun yn un Clasurol plaen.
A’r tu mewn mae’r patrwm o bwlpud yn y canol, sêt fawr, a’r rhesi ffurfiol o seddau yn un digon cyfarwydd.
Mae Bethlehem, felly, yn un o gannoedd o gapeli o batrwm tebyg a godwyd yng Nghymru’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Bellach, gan fod cynifer o’r capeli hynny wedi colli llawer o’u nodweddion gwreiddiol, wedi dirywio o ran eu cyflwr, neu wedi eu dymchwel, mae Bethlehem yn engrhaifft dda o’r hyn a oedd yn gyffredin. A chan ei fod mewn cyflwr sy’n agos at y gwreiddiol, penderfynodd Cadw ei warchod drwy ei gynnwys ar y rhestr statudol o adeiladau sydd o werth hanesyddol a phensaernïol.
Felly, engrhaifft gymharol brin o steil a oedd yn arfer bod yn gyffredin iawn yw’r lle hwn a fynychwn yn wythnosol.
Yn 1872 yr adeiladwyd Bethlehem ac mae’n perthyn i’r drydedd genhedlaeth o ddatblygu patrwm capeli yng Nghymru.
Mae capel Pen-rhiw yn Sain Ffagan yn enghraifft o’r genhedlaeth gyntaf. Dyma adeilad a drawsnewidiwyd o fod yn ysgubor i’w ddefnyddio’n dŷ cwrdd. O ail hanner y ddeunawfed ganrif y mae capel Pen-rhiw’n dyddio ac mae ei batrwm yn un gwahanol iawn i Fethlehem: y fynedfa ar yr un wal â’r pwlpud, a’r seddau wedi eu gosod yn anffurfiol.
Enghraifft o’r ail genhedlaeth yw capel enwog Blaenannerch, a godwyd ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn wahanol i Ben-rhiw a’i debyg, addoldy oedd capel Blaenannerch o’r dechrau. Ei nodwedd bwysicaf yw bod ei fynedfa ar yr ochr hir i’r capel ac nid ar y talcen fel Bethlehem. Mae capel Blaenannerch, felly, yn debycach i adeilad fferm wedi’i ffurfioli nag i deml glasurol.
Yna daw’r drydedd genhedlaeth y mae patrwm Bethlehem yn nodweddiadol ohoni. Mae’r brif fynedfa ar y talcen, ac yn uchafbwynt y tu mewn mae’r pwlpud yn y canol ac yn ffocws i’r holl le. Mae’r talcen wedi’i drefnu i adlewyrchu (mewn dull hynod syml) wyneb teml glasurol, gyda phediment a philastrau a mynedfa ar y canol.
Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a dechrau’r ugeinfed daeth capeli Cymru yn llawer mwy mentrus eu patrymau, yn dilyn pob math o ddylanwadau. Un engrhaifft leol o’r datblygiad hwn yw hen gapel y Crwys (sydd yn fosg ers rhai blynyddoedd). Yn 1899 y codwyd capel y Crwys ac mae yma ddylanwad sawl math o bensaernïaeth, gan gynnwys Baroc, Clasurol ac Art Nouveau, wedi eu cymysgu’n un cawl. Llawer mwy rhwysgfawr na Bethlehem, wrth gwrs.
Y math olaf, ac yn perthyn i’r bumed genhedlaeth, cawn gapeli modern fel Seilo Caernarfon a Chapel y Groes, Wrecsam sy’n dyddio o drydedd ran yr ugeinfed ganrif. Adeiladau sy’n wahanol iawn i Fethlehem ac sy’n amlwg yn perthyn i’n hoes ni.
Felly, dyna lle mae Bethlem Gwaelod-y-garth yn sefyll yn hanes capeli Cymru. Wedi deng mlynedd ar hugain o addoli yn y lle diymhongar hwn, mae’r adeilad a’i phobol yn agos iawn at fy nghalon.
Alwyn