Y Clwb Cinio
Menter ddiweddaraf Bethlehem yw’r clwb cinio. Fe’i ffurfiwyd tra oedd rhai o ferched yr eglwys yn mwynhau pryd o fwyd Eidalaidd mewn bwyty yng Nghas-gwent ym mis Mai 2008. A chael pryd cofiadwy o gymdeithasu hefyd o gwmpas y bwrdd.
Oddi ar hynny, rŷn ni’n dod at ein gilydd bob deufis i brofi cuisine amrywiol rhai o fwytai Caerdydd a’r cylch.
Rydym wedi crwydro sawl cyfandir wrth y bwrdd bwyd a mwynhau prydau o sawl gwlad gan gynnwys Gwlad Thai yn yr Eglwys Newydd, a Chymru yn y Cesar’s Arms yn y Creigiau, y Mochyn Du ym Mhontcanna, a thafarn y Gwaelod.
Eleni yr ydym eisoes wedi gloddesta yn y Loch Fyne yn y Bont-faen, ar tro nesaf byddwn yn teithio i Donysguboriau.
Mae croeso cynnes i holl aelodau Bethlehem ac i unrhyw un arall a garai ymuno â ni.
Am ragor o fanylion cysylltwch ag Ann Passmore.
yn ôl