Cymdeithasu





CAIB

CAIB: ‘Clwb Aelodau Ifanc Bethlehem’ meddai rhai. ‘Clwb Anhygoel Ieuenctid Bethlehem’ meddai eraill. Ond beth bynnag yw gwir ystyr CAIB, does dim amheuaeth am beth sy’n digwydd yno: oriau difyr o hwyl.

Llun o Alun Kitchener Evans

Sefydlwyd CAIB bron i ugain mlynedd yn ôl dan arweiniad rhai o rieni Bethlehem. Bellach mae’r sesiynau yng ngofal tri o’r cyn-aelodau, sef Sioned, Huw a Ieuan.

Dyma raglen nodweddiadol:

HydrefFfilm
Tachwedd  Bowlio Deg yn yr UCI
RhagfyrSesiwn goginio
IonawrSglefrio Iâ
ChwefrorA Question of Sport
MawrthPêl-droed/Badminton/Ioga/Dringo
EbrillYmpryd Noddedig
MaiSgwrs am AIDS gan Elen
MehefinTraeth, Barbiciw

Bydd CAIB hefyd yn cymryd rhan yn y gwasanaeth 9 Llith a Charol cyn y Nadolig.

yn ôl